Cymorth Recriwito wedi’i Deilwra

Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig cymorth recriwitio am ddim i’ch helpu i ddod o hyd i’r bobl iawn ar gyfer eich busnes. Gall Cynghorydd Cyflogwyr lleol eich helpu gyda disgrifiadau swyddi, sifftio ceisiadau, trefnu cyfweliadau, a chreu prosesau recriwitio cynhwysol.

I’ch helpu i ddod o hyd i’r bobl iawn ar gyfer eich busnes, mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn barod gyda chymorth recriwtio wedi’i deilwra. I ddarganfod mwy am beth allwn ei gynnig i'ch busnes, cwblhewch y ffurflen ymholiad ar-lein neu ffoniwch ni ar 0800 169 017.

Recruitment best practice

Arfer gorau recriwitio

Ar ôl i chi gysylltu â ni, bydd Ymgynghorydd Cyflogwyr lleol yn eich ffonio’n ôl i drafod eich anghenion recriwtio a sut y gallwn eich cefnogi. Byddwch chi’n cael digonedd o gyngor i sicrhau bod gennych y cyfle gorau o recriwtio’r bobl iawn. Yn dibynnu ar y nifer a’r fath o rolau rydych yn recriwitio ar eu cyfer, gallai hyn gynnwys:

  • Help i ddod o hyd i ymgeiswyr safonol yn eich ardal
  • Cyngor a chynllunio recriwitio
  • Sifftio ceisiadau a chyfweld ag ymgeiswyr
  • Cymorth ychwanegol ar gyfer recrwitio pobl ifanc
  • Marchnata lleol o’ch swyddi gwag, gan gynnwys gwahoddiadau i ddigwyddiadau recriwtio lleol
  • Cymorth ychwanegol ar gyfer anghenion recriwtio cymhleth
Writing the best job descriptions and setting up interviews 1

Ysgrifennu'r disgrifiadau swyddi gorau a threfnu cyfweliadau

Yn aml, disgrifiadau swyddi yw'r darn cyntaf o wybodaeth am eich busnes y bydd darpar ymgeiswyr yn ei weld. Dyna pam ei bod hi'n bwysig eu bod yn glir a bod ganddyn nhw'r swm cywir o fanylion ar gyfer y rôl rydych chi'n ei hysbysebu. Gall ein Cynghorwyr Cyflogwyr eich helpu i ysgrifennu eich disgrifiad swydd i sicrhau eich bod chi'n denu'r bobl gywir gyda'r sgiliau cywir.

Byddan nhw hefyd yn gallu helpu i baru'r ymgeiswyr cywir â'ch swyddi gwag trwy eich helpu i sifftio ceisiadau. Gallen nhw hyd yn oed gyfweld ag ymgeiswyr ar eich rhan, a lle mae lle swyddfa ar gael, gadael i chi ddefnyddio canolfannau gwaith lleol ar gyfer y cyfweliadau hynny.

Employing people with disabilities

Cyflogi pobl ag anableddau

Gall eich Cynghorydd Cyflogwyr Canolfan Byd Gwaith lleol eich helpu i greu proses recriwtio gynhwysol sy'n annog pobl sy'n byw ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor i wneud cais am swyddi gwag.

Gallai hyn fod trwy:

  • Eich cefnogi i wneud yn siŵr bod eich proses ymgeisio yn hygyrch
  • Eich helpu i wneud addasiadau rhesymol yn y gweithle
  • Eich cynghori ar brosesau recriwtio sy'n cefnogi pobl anabl

Gallai grant Mynediad at Waith helpu eich gweithiwr i dalu am gymorth ymarferol i'w galluogi i ddechrau gweithio. Gall hefyd eich helpu i gadw gweithwyr anabl fel y gallwch eu cadw nhw a'u sgiliau yn eich busnes.

Mae Hyderus o ran Anabledd yn gynllun a gefnogir gan y llywodraeth sy'n annog cyflogwyr i gymryd camau i wella sut maen nhw'n recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl. Mae bod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn golygu eich bod chi'n fwy tebygol o ddenu ceisiadau gan bobl anabl sydd â'r sgiliau sydd eu hangen arnoch  ar gyfer eich busnes.

Cysylltwch â ni heddiw

I dderbyn cymorth recriwtio wedi'i deilwra, cwblhewch ein ffurflen ymholiad ar-lein a bydd Cynghorydd Cyflogwyr lleol yn eich ffonio'n ôl. Fel arall, ffoniwch ni ar 0800 169 017.


Cymorth busnes ehangach gan lywodraeth y DU

Chwilio am gymorth busnes arall? Siaradwch ag arbenigwyr, darganfyddwch rwydweithiau busnes lleol, llywiwch opsiynau cyllido a mwy ar business.gov.uk.


Telerau ac Amodau

Mae angen i gyflogwyr gael swydd wag i gael mynediad i'r gwasanaethau llenwi swyddi gwag. Er mwyn cael mynediad at rai/pob un o'r gwasanaethau uwch, mae angen i gyflogwyr fod yn barod i ystyried ymgeiswyr o'r Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer y rolau hynny.

Gellir dod o hyd i'r Telerau ac Amodau Llawn ar gyfer Dod o Hyd i Swydd yma: Telerau ac Amodau | Cyflogwr | Dod o hyd i swyddopens findajob.dwp.gov.uk in a new tab


Chwilio am gymorth i ddod o hyd i swydd?

Ewch i wefan Jobhelpopens jobhelp.campaign.gov.uk in a new tab

Last updated: