Recriwtio'r bobl iawn gyda’r Ganolfan Byd Gwaith

Gwasanaeth recrwitio am ddim gyda mynediad at gyllid gan y llywodraeth ar gyfer hyfforddiant a phrentisiaethau.

P'un a oes gennych 1 swydd wag neu 100, gall ein Hymgynghorwyr Recriwtio helpu i wneud recriwtio yn haws, gan adael i chi fynd ymlaen â'r busnes.

O hysbysebu eich swyddi gwag a sifftio ceisiadau i ganllawiau ar hyfforddiant , prentisiaethau a phrofiad gwaith penodol i sector, gan gynnwys cyfleoedd a gefnogir gan y Gwarant Ieuenctid, gallwn deilwra ein gwasanaeth am ddim i ddiwallu eich anghenion recriwtio a’ch helpu chi i ddarparu cyfleoedd i bobl yn eich cymuned.

Os ydych chi’n barod i gychwyn arni, cwblhewch ein ffurflen ymholiad ar-leinopens secure.dwp.gov.uk in a new tab neu ffoniwch Gwasanaethau Cyflogwyr heddiw ar 0800 169 0178 a bydd Ymgynghorydd Recriwtio lleol yn cysylltu â chi i drafod sut gallwn ni eich cefnogi.

Gwasanaethau Cyflogwyr y Ganolfan Byd Gwaith

Advertise your vacancies

Cymorth recriwtio wedi'i deilwra

Popeth o gymorth i ddod o hyd i ymgeiswyr o safon yn eich ardal i ganllawiau ar gyflogi pobl ag anghenion ychwanegol.

Cysylltwch â niopens secure.dwp.gov.uk in a new tab
tailored recruitment services

Hysbysebu eich swyddi gwag

Postiwch swyddi am ddim ar Dod o Hyd i Swydd, ein bwrdd swyddi ar-lein hawdd ei ddefnyddio, gan gyrraedd ymgeiswyr sy'n barod i weithio.

Dechrauopens findajob.dwp.gov.uk in a new tab
create more opportunities

Adeiladu eich gweithlu yn y dyfodol

Llenwch fylchau sgiliau a datblygwch  llinell gyflenwi o dalent gyda chymorth y llywodraeth gan gynnwys cyflogi pobl ifanc 16 i 24 oed.

Cysylltwch â niopens secure.dwp.gov.uk in a new tab
support our youth hubs

Cefnogwch ein hybiau ieuenctid

Cysylltwch yn uniongyrchol â phobl ifanc a chael mynediad at dalent yn eich ardal trwy weithio gyda'ch Hyb Ieuenctid lleol.

Cysylltwch â niopens www.gov.uk in a new tab

Beth yw'r Gwarant Ieuenctid?

Y Gwarant Ieuenctid yw ymrwymiad y llywodraeth i sicrhau bod gan bob person ifanc rhwng 16 a 24 oed y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i gael gwaith neu addysg.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd y llywodraeth yn buddsoddi £2.5 biliwn ychwanegol yn y Garant Ieuenctid a'r Ardoll Twf a Sgiliau, gan gefnogi bron i filiwn o bobl ifanc a datgloi hyd at 500,000 o swyddi, cyfleoedd hyfforddi a dysgu.

Pa fuddion sydd i'ch busnes?

Mae cyflogwyr yn hanfodol i lwyddiant y Gwarant Ieuenctid ac adeiladu ein gweithlu am y dyfodol, felly rydym yn ehangu'r gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau. Dyma beth allech chi gael mynediad iddo:

  • Grant Swyddi Ieuenctid gwerth £3,000 i bob person rhwng 18 a 24 oed rydych yn eu cyflogi ledled Prydain Fawr, sydd wedi bod yn chwilio am waith am chwe mis neu fwy, ar gael o fis Mehefin 2026
  • Taliad cyflogi prentisiaeth o £2,000 ar gyfer busnesau llai (cyflogwyr nad ydynt yn talu ardoll), yn Lloegr, sy'n cymryd prentis newydd rhwng 16 a 24 oed, fel rhan o ymgyrch i greu 50,000 o brentisiaethau i bobl ifanc, ar gael o fis Hydref 2026.
  • Hyfforddiant prentisiaeth wedi'i ariannu'n llawn ar gyfer busnesau llai (cyflogwyr nad ydynt yn talu ardoll) ar gyfer prentisiaid 16 i 21 oed. O Awst 26 bydd hyn ar gyfer pob person o 16 i 24.
  • £1,000 i gefnogi'ch prentis yn y gweithle os, ar ddechrau eu hyfforddiant prentisiaeth, maent yn un o'r canlynol:
    • 16 i 18 oed (neu 15 oed os yw'r prentis yn cael eu penblwydd yn16 oed rhwng dydd Gwener olaf Mehefin a 31 Awst)
    • 19 i 24 oed gyda chynllun addysg, iechyd a gofal (EHC)
    • 19 i 24 oed ac wedi bod mewn gofal
  • Swyddi â chymhorthdal am 6 mis drwy'r Gwarant Swyddi estynedig i greu dros 90,000 o swyddi dros y tair blynedd nesaf
  • Eithriadau cyfraniadau Yswiriant Gwladolopens www.gov.uk in a new tab ar gyfer gweithwyr o dan 21 oed a phrentisiaid o dan 25 oed (ar gyflogau hyd at £50,270)
  • Cymorth hyfforddi pwrpasol i'ch helpu i ddylunio rhaglenni academi gwaith sector-benodol a chyfleoedd profiad gwaith sy'n gweddu i'ch busnes
  • Mynediad i Hybiau Ieuenctid lleol i'ch paru ag ymgeiswyr yn eich ardal sy'n barod am swydd
  • Cymorth gweinyddol wrth gychwyn cwsmeriaid Credyd Cynhwysol i'ch helpu i gymryd dechreuwyr newydd yn ddi-drafferth

P'un a ydych yn edrych i lenwi rolau lefel mynediad, tyfu eich rhaglen prentisiaeth neu fuddsoddi yng nghenhedlaeth nesaf eich gweithlu, mae'r Gwarant Ieuenctid wedi'i gynllunio i wneud hynny'n haws.

Beth yw cyflogwr sydd ddim yn talu ardoll?

Mae cyflogwr sydd ddim yn talu ardoll yn fusnes yn y DU sydd â bil cyflog blynyddol o lai na £3 miliwn ac felly nid oes rhaid iddynt dalu'r Ardoll Prentisiaethau.

Mae'r Ardoll Prentisiaethau yn daladwy gan bob cyflogwr sydd â bil cyflog blynyddol o fwy na £3 miliwn, ar gyfradd o 0.5% o gyfanswm eu bil cyflog, ac fe'i cyflwynwyd i helpu i ariannu hyfforddiant prentisiaethau.

Mae cyflogwyr sydd ddim yn talu ardoll yn rhannu cost hyfforddiant ac asesu eu prentisiaid gyda'r llywodraeth, gyda lefelau gwahanol o gyllid ar gael.

Dysgu mwy amopens www.apprenticeships.gov.uk in a new tab
Male worker in industrial warehouse

Sut allwch chi gymryd rhan?

1. Dywedwch wrthym beth sydd ei angen arnoch drwy lenwi ein ffurflen ar-lein (mae'n cymryd llai na 5 munud)

2. Bydd Cynghorydd Cyflogwyr Canolfan Byd Gwaith lleol yn eich ffonio'n ôl

3. Derbyn cymorth recriwtio wedi'i deilwra i anghenion eich busnes


Gweithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith – straeon o lwyddiant

DS-224_JCP_Employer_webpage-success-1

"Gyda’r Ganolfan Byd Gwaith rwy'n dod i adnabod darpar ymgeiswyr a gweld a byddent yn addas i'r busnes"

Norman, McQueens Dairies

Safwan Hanash, Partnership and Development Manager at Embark Learning and Fairway Healthcare

"Gyda’r Ganolfan Byd Gwaith rwy'n dod i adnabod darpar ymgeiswyr a gweld a byddent yn addas i'r busnes"

Safwan Hanash, Partnership and Development Manager at Embark Learning and Fairway Healthcare


Cymorth busnes ehangach gan lywodraeth y DU

Chwilio am gymorth busnes arall? Siaradwch ag arbenigwyr, darganfyddwch rwydweithiau busnes lleol, llywiwch opsiynau cyllido a mwy ar business.gov.uk.


Telerau ac Amodau

Mae angen i gyflogwyr gael swydd wag i gael mynediad i'r gwasanaethau llenwi swyddi gwag. Er mwyn cael mynediad at rai/pob un o'r gwasanaethau uwch, mae angen i gyflogwyr fod yn barod i ystyried ymgeiswyr o'r Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer y rolau hynny.

Gellir dod o hyd i'r Telerau ac Amodau Llawn ar gyfer Dod o Hyd i Swydd yma: Telerau ac Amodau | Cyflogwr | Dod o hyd i swyddopens findajob.dwp.gov.uk in a new tab


Chwilio am gymorth i ddod o hyd i swydd?

Ewch i wefan Jobhelpopens jobhelp.campaign.gov.uk in a new tab

Last updated: