Cefnogi Hybiau Ieuenctid
Mae Hybiau Ieuenctid yn fannau cymunedol lle gall pobl ifanc 16 i 24 oed gael mynediad at gymorth cyflogaeth, hyfforddiant sgiliau, a gwasanaethau ehangach i'w helpu i gael gwaith.
Gweler sut mae Hybiau Ieuenctid yn dod â chyflogwyr a phobl ifanc ynghyd ledled Prydain Fawr, gydag 80 o leoliadau newydd wedi'u cadarnhau fel rhan o gynlluniau i gyrraedd dros 360 o ardaloedd: Hwb mawr i bobl ifanc gydag 80 o Hybiau Ieuenctid newydd wrth i Ymddiriedolaeth SPFL bartneru â'r Adran Gwaith a Phensiynau - GOV.UKopens eur02.safelinks.protection.outlook.com in a new tab
Drwy sefydlu neu bartneru â'ch Hyb Ieuenctid lleol, gallwch gysylltu'n uniongyrchol â phobl ifanc brwdfrydig yn eich ardal, llunio hyfforddiant i ddiwallu anghenion eich busnes, a chwarae rhan weithredol wrth adeiladu gweithlu'r dyfodol.
I ddysgu sut y gallwch gefnogi eich Hyb Ieuenctid lleol, cysylltwch â'ch Arweinydd Gwasanaeth lleol.opens www.gov.uk in a new tab
Hybiau Ieuenctid Lleol

Mae Hybiau Ieuenctid yn dwyn ynghyd gymorth cyflogaeth gan y Ganolfan Byd Gwaith (JCP) â gwasanaethau sy’n seiliedig ar leoliad gan bartneriaid lleol, i gyd o dan un to. Maent yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Prydain Fawr ac yn cynnig cyngor CV, canllawiau gyrfaoedd, hyfforddiant sgiliau, cymorth iechyd meddwl, a chymorth gyda thai i bobl ifanc.
O 2026, bydd y llywodraeth yn ehangu Hybiau Ieuenctid i fwy na 360 o leoliadau ledled y wlad dros dair blynedd, gan roi mwy o gyfleoedd i gyflogwyr ymgysylltu'n uniongyrchol â phobl 16–24 oed a'u cefnogi trwy wasanaethau cyflogaeth wedi'u teilwra.
Cyfloedd i Gyflogwyr

Sefydlu Hyb Ieuenctid newydd
Gall cyflogwyr gynnal Hyb Ieuenctid drwy ddarparu lle i bobl ifanc (16-24) a gweithio gyda'u Harweinydd Gwasanaeth lleol i helpu pobl ifanc i gael gwaith. Mae cyflogwyr yn darparu'r safle ac mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn darparu anogwyr gwaith ar y safle a chefnogaeth partneriaeth. Dylai'r hybiau fod ar agor o leiaf dri diwrnod yr wythnos a byddant yn darparu'r glasbrint gwasanaeth gofynnol (mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl, cyngor tai, darpariaeth sgiliau, ac ymgysylltu â chyflogwyr).
Partneru â'ch Hwb Ieuenctid lleol
Gall cyflogwyr ymgysylltu â Hyb Ieuenctid presennol yn eu hardal drwy weithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith a phartneriaid lleol i gynnal gweithgareddau, cynnig mewnwelediad ar eich sector, neu ddarparu mentora i bobl ifanc sy'n paratoi i ymuno â'r gweithlu.
Cynnig profiad gwaith neu leoliadau hyfforddi
Crëwch gyfleoedd i bobl ifanc ennill profiad ymarferol yn eich busnes. Mae hyn yn eu helpu i feithrin sgiliau ac yn rhoi cyfle i chi adnabod talent y dyfodol.
Mynychu digwyddiadau recriwtio lleol
Mae Hybiau Ieuenctid yn cynnal ffeiriau swyddi a gyrfaoedd lle gallwch gwrdd a chyfweld ag ymgeiswyr ifanc yn uniongyrchol. Mae'r digwyddiadau hyn yn ffordd syml o lenwi swyddi gwag gyda phobl leol frwdfrydig
Cymerwch ran
I ddysgu sut allwch chi gefnogi eich Hyb Ieuenctid lleol, cysylltwch â'ch Arweinydd Gwasanaeth lleol.
Cymorth busnes ehangach gan lywodraeth y DU
Chwilio am gymorth busnes arall? Siaradwch ag arbenigwyr, darganfyddwch rwydweithiau busnes lleol, llywiwch opsiynau cyllido a mwy ar business.gov.uk.
Telerau ac Amodau
Mae angen i gyflogwyr gael swydd wag i gael mynediad i'r gwasanaethau llenwi swyddi gwag. Er mwyn cael mynediad at rai/pob un o'r gwasanaethau uwch, mae angen i gyflogwyr fod yn barod i ystyried ymgeiswyr o'r Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer y rolau hynny.
Gellir dod o hyd i'r Telerau ac Amodau Llawn ar gyfer Dod o Hyd i Swydd yma: Telerau ac Amodau | Cyflogwr | Dod o hyd i swyddopens findajob.dwp.gov.uk in a new tab
Chwilio am gymorth i ddod o hyd i swydd?
Ewch i wefan Jobhelpopens jobhelp.campaign.gov.uk in a new tab
Last updated: